Ailddysgu

Tuesday 2 July 2024

Al lan y môr

Dan ni ar ein gwyliau rŵan, yn aros yn Camber Sands yn Sussex.  Erioed wedi bod yma o’r blaen a mae o’n cymryd amser i ddod i arfer gyda’r lleoliad ac i weithio allan beth dach chi isio gwneud.  Wrth gwrs byddaf yn chwilio am bethau ynglyn â natur, a mae ’na ddigon o hynny.

Yr ochr arall o’r traeth hir mae gwarchodfa natur Rye Harbour - er, i gyrraedd y warchodfa (mae afon yn y ffordd) rhaid gyrru mewn cylch.  Mae’r warchodfa yn hyfryd - ac yn lle gwahannol iawn i be dwi wedi arfer efo.

 

Ond ychydig o amser dan ni wedi cael yno.  Dydy fy ngŵr ddim yn medru cerdded gymaint y dyddiau yma, ond mae caffi bach ar y warchodfa felly dyma ei adael o yno yn darllen y papur newydd tra roeddwn i yn cerdded o gwmpas.  Does dim lluniau i ddangos achos fedraf i ddim ei lawr lwytho o famau - dim lluniau adar beth bynnag. Ond dros ddau ddiwrnod dwi wedi gweld gylfinir, pioden y môr (llawer, llawer), gwenoliaid y môr cyffredin, avocet, pibydd coesgoch, a.y.y.b. ac aderyn na fedrwn ei adnabod.  Ond ni chefais gip digon da - roedd ei gefn ataf.  Aderyn llawer mwy na phioden y mor, ond du a gwyn....Falle, ar ôl ei lawr lwytho caf roi fy llun ddrwg ar Facebook Galwad Cynnar!

 

O ran blodau, mae rhywogaethau diddorol yma - a phrin.  Mae o’n llecyn arbennig.  Bore ’ma cerddais o’r tŷ ar draws y maes golff sydd yn agos i dwynni.  A gwelais flodau gwych yn fanno hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home