Ailddysgu

Friday 9 August 2024

Eisteddfod Pont y Pridd

Dwi wedi cael wythnos hynod o Gymraeg a Chymreig, yn dilyn yr Eisteddfod.  Yr eisteddfod ddiwethaf, cyn hon, i fi fynychu, oedd Ynys Môn, 2017.  Gwir i ddweud doedd honno ddim yn llwyddiant ysgubol.  Arhosais yng Nghaergybi a doedd y drafnidiaeth ddim yn gweithio yn dda pan oeddwn yna - ac wedyn daeth y glaw mawr.... Ond dwi’n cofio rhai pethau gwych, fel Tudur Owen yn perfformio....



Felly, a finnau gyda phen-blwydd arbennig eleni, mi roedd yn amser i fi fentro eto.  Eleni, wrth gwrs, mae’r Eisteddfod ym Mhont y Pridd.  Gwnes drefniant i aros gyda fy ffrind Gareth yn Sir Morgannwg am ddwy noson ar ddechrau’r Eisteddfod ac roeddwn yn ansicr am y drafnidiaeth, ond aeth bopeth mor dda.

 

Wrth gwrs, mae o’n daith eithaf hir o famau, yn Milton Keynes, i Bontypridd, a rhaid croesi Llundain.  Cyrhaeddais y maes mewn amser i gyfarfod Gareth a fy ffrind Jan o Landeilo a chael tamaid o ginio cyn mynd i weld Talwrn y Beirdd yn y babell Lên.  A phwy a ŵyr ar y pryd bod Carwyn Eckley, o dîm Dros yr Aber, wedi ennill y gadair?  Dwi’n dilyn Talwn y Beirdd o bryd i’w gilydd:  ffordd dda o drosi yn y Gymraeg pan ddach chi’n byw yn Lloegr.

 

Cefais tri diwrnod ardderchog.  





Roedd yr awyrgylch a Pharc Angharad yn wych.  Trueni na chawsom amser i grwydro o gwmpas Pont y Pridd, sydd i’w weld yn lle deniadol.  Wrth gwrs, rhan fawr o’r profiad ydy’r sgyrsiau dach chi’n cael a chefais sgwrs ddiddorol dros ben gyda dynes leol a oedd yn rhedeg caffi a oedd yn trefnu gweithgareddau ym Mhont y Pridd.  Lle i’r gymuned cyfarfod a chael cefnogaeth os angen.

 

Yn anffodus doeddwn ond yn aros tan brynhawn Llun, ac roedd rhaid gadael cyn y Coroni....ond da oedd dilyn yr holl antur ar y teledu wedyn unwaith fy mod yn adnabod y maes.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home