Llyfrau newydd
Wel, mae’r Eisteddfod wedi hen fynd (er fy mod wedi bod yn mwynhau’r uchafbwyntiau ar i-player) ond bydd y dylanwad o gwmpas am dipyn. Ro’n wedi gorffen darllen y llyfrau Gymraeg yn y tŷ (heblaw am Cranogwen: braidd yn sych, ond dwi wedi darllen y rhan fwyaf) ac felly archebais rhai newydd, o Balas Brint, fel arfer. Daeth y paced dau ddiwrnod yn ôl. Cyffrous! Dwi wedi dechrau ar Y Cysgod yn y Cof. Mae o’n iawn ond dydy o ddim wedi cydio go iawn eto fel fy mod yn methu ei roi i lawr.
A llyfr o'r Siop elusen! Cyfres hyfryd a dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home