Ailddysgu

Monday 23 September 2024

Hel atgofion: 23fed Medi 2024

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn hel atgofion ac yn meddwl am fy ffrind annwyl, Aude, a bu farw dros wyth mlynedd yn ôl yn 2016.  Mae galar yn beth rhyfedd.  Mae rhan ohonoch chi isio amser mynd heibio i chi cael bod yn bellach i ffwrdd o’r poen, ond mae rhan arall isio'r amser sefyll, neu arafu, i chi cael cofio'r person yn dda.  Mae 'na ryw ofn anghofio, ac mae hynny yn  digwydd i ryw raddau.

 

Ar hap a damwain des i adnabod Aude (a oedd yn Ffrances), yn 1981.  Roedd ei pherthynas hi wedi torri, ac felly roedd hi wedi symud allan o le'r oedd hi’n byw gyda’i chariad, ac angen rywle i fyw.  Ro’n i ar fin mynd i ffwrdd am 5 wythnos; roedd gen i lofft sbâr, felly gofynnais iddi hi os fase hi’n hoffi aros yna.  Ac ar ôl dod yn ôl, doedd dim rheswm i newid pethau.  Er, roedd y ddwy ohonon ni yn wahanol iawn, a doedd rhannu tŷ ddim gwastad yn esmwyth.  Ond dros y blynyddoedd, a’r ddwy ohonom erbyn hyn yn byw ar wahân, datblygodd y cyfeillgarwch, ac roeddwn wastad yn falch i’w gweld hi.

 

Pan roedd hi’n byw yn lleol ac wedyn yn St Albans, roeddym yn cyfarfod am ginio yn aml ar ddydd Sadwrn, tan iddi hi (a’i gwr) symud i Ludlow.  Dipyn yn bell, wedyn.  A dyna ddechrau ar benwythnosau lle ro'n i'n mynd i’w gweld hi yna, neu gyfarfod rywle fel Caer am y diwrnod ar ôl dal trên. Roedd byw yn Ludlow yn fath o gyfaddawd i hi. Roedd hi isio byw wrth ymyl y môr ond heb fedru fforddio byw yn union lle'r oeddent isio byw.  Felly'r penderfyniad oedd cerdded llwybr arfordirol Cymru: hi a Charles ei gŵr.  Mi ges i wahoddiad i ymuno a nhw ambell waith pan roedd yn bosibl dal trên i le roeddent yn aros.

 


 

Dyma lun tynnais ohoni hi a Charles ei gŵr yn cerdded rhan o’r llwybr arfordirol yn Sir Fôn, ar ddiwrnod hyfryd iawn ym mis Awst, 2013.  Amser hir yn ôl.  Cawsom diwrnod hyfryd, hyfryd.  Ond dipyn ar ôl hynny, clywodd hi fod y cancr wedi dod yn ôl.  


Dwi ddim yn cofio yn union bryd dywedodd hi wrthyf ei bod hi wedi cael diagnosis o gancr y fron.  Cyn symud i Ludlow.  Ond dwi YN cofio lle roedden ni: yn cael cinio mewn caffi bach yn Olney, tref fach ryw 5 milltir i ffwrdd.  Ac roedd y cancr yn un drwg, yn ymosodol.  Cafodd triniaeth, ac yn araf bach gwellodd.  Ond blynyddoedd yn ddiweddarach, daeth y cancr yn ôl.  A’r tro yma, doedd dim modd gwella.

 

Beth sydd yn gwneud cyfeillgarwch annwyl, agos?  Mae’n anodd gwybod yn union.  Be dwi yn gwybod ydy fy mod gwastad yn teimlo’n well ar ôl diwrnod, neu hyd yn oed dwy awr yn ei chwmni.  Roedd y misoedd olaf yn anodd i bawb.  Ei ffordd hi o ymdopi oedd gwneud gymaint â phosib, ac yn sicr roeddwn i yn trysori’r amser cawson ni gyda’n gilydd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home