Yn yr add
O’r diwedd, mae’r cynhaeafu yn mynd yn dda. Er bod rhai planhigion ddim wedi gwneud yn dda iawn, mae gennym lawer o rai pethau. Dan ni’n cael mafon bob dydd ac mae 'na fafon yn y rhewgell hefyd.
Maen nhw’n fach oherwydd dan ni ddim wedi cael glaw go iawn am sbel rŵan a does dim modd dyfrio popeth digon. Ac yn yr un gwely a’r mafon (a’r rudbeckia hardd) mae ffa dringo.
Roedd y malwod a’r gwlithod yn eu bwyta ond mae rhai wedi goroesi, ac yn gwneud yn dda.
Mae’r tywydd wedi bod yn dda am sbel, gyda llawer o haul, ond erbyn hyn mae’r tir yn sych iawn. Ddoe, treuliais dipyn o amser yn dyfrio’r coed ffrwythau tŷ allan i’r muriau yn y berllan “geurilla”. Eleni mae gennyn ni gellyg ar un goeden (a gobeithio byddant yn flasus!) ond mae’r goeden ifanc yn edrych yn drist, er ei bod dipyn gwell ar ôl dyfrio a chael haen o gompost.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home