Ailddysgu

Monday 30 September 2024

Pethau Hydrefol: 30fed Medi 2024


Dwi’n hoffi’r Hydref.  Ydy, mae’r golau yn dechrau mynd yn gynnar yn y dydd, ac mae hi’n medru bod yn oer, yn stormydd ac yn wlyb.  Ond hefyd mae hi’n bosibl cael diwrnodau braf cynnes heulog.  Eleni, ar ôl haf bach Mihangel braf, dan ni wedi cael cyfnod o dywydd ych-a-fi: stormydd, glaw trwm a llifogydd.  Ond gobeithio bydd y tywydd yn gwella.  O leiaf roedd hi yn sych ddoe ac yn heulog echddoe. (Dim mor dda heddiw....)  A mae ’na bethau da yn digwydd yn yr Hydref, fel:

 

1) Sgwash.  Be ydy’r gair Cymraeg cywir tybed?



 “Ukiri Miri” ydy enw’r rhain.  Maent mor ddel.  Doeddwn i ddim yn siŵr a fase’n well eu gadael yn yr ardd, neu dylwn eu casglu a rhoi nhw yn y tŷ gwydr am sbel er mwyn i’r croen caledu.  Felly dwi wedi gosod tair yn y tŷ gwydr a gadael y tair eraill yn yr ardd am y tro.

 

2) Madarch.  Pan oeddwn yn iau roeddwn yn casglu ac yn bwyta madarch gwyllt.  Rŵan dwi lawer mwy gofalus.  





Ond mae hon yn fwytadwy, bron yn bendant.  “Giant puffball” ydy hi.  A Llyfr Iolo ydy’r lle i chwilio am y gair Cymraeg!  Ond dydy’r ffwng neu’r madarch yma ddim yn y llyfr.  Felly ar ôl holi ar grŵp Facebook Galwad Cynnar, daeth Martin Coleman yn ôl gyda’r enw "Coden Fwg."  Felly dwi wedi dysgu rhywbeth heddiw.


3) Compost.  Mae'r amser yma o'r flwyddyn yn ardderchog ar gyfer gwneud compost.  Mae'r goden afalau surion bach wedi cynhyrchu gymaint o afalau eleni.  (Ar ôl flodeuo mor dda yn y Gwanwyn a denu'r peillwyr)




Rŵan, mae'r afalau bach wedi mynd ar y compost ynghyd â chardbord, papur newydd a thail.  



Ac erbyn y Gwanwyn bydd y compost yn edrych fel hyn - yn barod i'w ddefnyddio.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home