Am ddydd hyfryd: Hydref 28 2024
Ddoe oedd y dydd cyntaf ar ôl newid y clociau. Roedd arolygon y tywydd yn addawol iawn - felly codais yn eithaf cynnar a llwyddais i fod allan am dro am saith o’r gloch! A hithau’n olau gyda haul llachar- gwych! Am wythnosau mae hi wedi bod yn anodd (i fi ) codi a mynd allan yn gynnar oherwydd ei fod mor dywyll. Ond rŵan, am dipyn, mae hi’n bosibl mynd allan am 7 heb orfod bod allan yn y tywyllwch
Roedd rheswm am fynd allan heblaw mynd â’r ci am dro. Roeddwn isio dod o hyd i’r madarch anhygoel yma.
“Amanita’r gwybed”. (Fly Agaric yn Saesneg) Does 'na ddim llawer ohonyn nhw o gwmpas fama - a doeddwn i ddim isio gyrru. Felly cerddais i lyn lleol - Tongwell
- lle'r oedd nifer bach wedi cael eu gweld. Ro’n wedi edrych o’r blaen - dim lwc - ond tro yma - dyma lle'r oedd hi. Roedd rhywbeth wedi ei bwyta hi - ond er hynny, digon hardd yn fy marn i.
A dyma un arall. Twyllwr pwys (Amethyst deceiver yn Saesneg). Mae hon yn eithaf bach ac yn hardd ofnadwy.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home