Sut i ddofi Corryn
Yn fy mhrofiad i, pan mae bardd yn ysgrifennu nofel, mae un o ddau beth yn digwydd: naill ai mae'r nofel yn wych, neu dydy hi ddim yn gweithio. Un enghraifft o fardd sydd wedi ysgrifennu nofelau rhagorol yw Siân Northey. Dwi wedi mwynhau pob nofel mae hi wedi sgwennu. (A dwi ddim am roi enghreifftiau o’r rhai nad ydynt yn gweithio: yn fy marn i).
Ar y funud dwi’n ailddarllen Sut i Ddofi Corryn, gan Mari George. Mwynheais y nofel hon yn enfawr y tro gyntaf darllenais hi, a hyd at hyn, dwi wedi cael yr un profiad. Mae o’n llyfr eithaf gwahanol ac mae o’n gweithio’n dda. Mae'r ysgrifennu yn syml ac yn ddarllenadwy iawn. Ond y tu ôl i’r ysgrifennu mae haenau dyfnach: ac mae’r awdur yn cynnig ysgrifau ar fywyd – a marwolaeth, bob hyn a hyn. Mae'r homilïau bach hyn wedi'u hysgrifennu'n ysgafn ac yn gweithio'n dda.
Mae yma stori afaeladwy yn tynnu’r darllenwr ymlaen. On dwi ddim yn sicr bod y stori ei hun yn gredadwy iawn. Yn y stori fe welwn Muriel yn teithio i Gwatemala i ddod o hyd i gorryn y gallai ei wenwyn wella canser ei gŵr, efallai. Mae hi’n mynd i amgueddfa pry cop yn Flores yng Ngwatemala. Pa mor debygol yw hyn? Mae hi’n mynd ar goll yn y jyngl. Mae hi’n aros yn y jyngl dros nos – falle am fwy nag un nos. Ond does dim ots am y pethau yma. Mae’r stori, a’r cymeriadau mor gynnes, a’r pethau pwysig yn sicr yn gredadwy.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home