Ailddysgu

Saturday, 19 October 2024

Ar goll: 19 Hydref

Be well i wneud ar fore diflas glawog (ar ôl sortio allan y car - ond dim mwy am hynny....) na chlirio allan rhan o’r stydi a chwilio am bethau sydd wedi mynd ar goll...fel cardiau gyda lluniau cynffonnau sidan arnyn nhw.  Mae’r adar yma yn lliwgar ac yn hardd iawn ac yn dod i’r wlad o Sgandinafia (yn bennaf) yn y gaeaf pan mae’r aeron wedi gorffen yn fanno, i wledda ar goed yn famau.  Felly mae pethau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.  Os ydy’r aeron yn iawn yn Sgandinafia, does dim llawer yn dod drosodd i’r wlad yma.

 

Ond, os nad oes bwyd yn y gogledd, ac mae llwyni yn llawn o aeron yma, maen nhw’n dod yma.  Ac yn medru dod mewn niferoedd mawr.  Yn Saesneg mae pobl yn sôn am “Waxwing Winters”.  A dyna be ddigwyddodd llynedd.  Ac yn aml, dim yn y cefn gwlad mae’r adar, ond ar ryw stad tai, lle mae gwrychoedd y ddraenen wen wedi cael eu plannu.  A dyna le roedden nhw ar stad fach ryw 7 filltir i ffwrdd, wrth ymyl y ffordd fawr ar lwybr gyda gwrych o ddraenen wen, a dyma be oedd yn denu’r adar.  Cymerais y lluniau ar ddechrau’r flwyddyn a gyrru’r ffeil i siop fach leol iawn sydd yn printio pethau.  Gyrrais rhai o’r cardiau i bobl a oedd yn cael penblwyddi neu beth bynnag ond roedd ryw 8 neu ddeg ar ôl.  A does gen i ddim syniad lle maen nhw - ond meddyliais efallai eu bod ar y silff yn y stydi, ond na.  Dwi’n meddwl mai’r llun yma sydd ar y cardiau, 



a dyma lun arall dwi'n ei hoffi hefyd.

 



Ond ta waeth, dwi wedi llwyddo i wneud dipyn o dacluso a wedi cael gwared o bapurau hen.           

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home