Ailddysgu

Monday, 16 December 2024

Nadolig - falle rhan 1

Nadolig Gwyrdd

Ydy hyn yn bosib, tybed? Dwi’n trio bod yn wyrdd trwy’r flwyddyn: prynu dillad ail-law pan fedraf, osgoi plastig, cadw fy ôl troed carbon yn isel a.y.b..  Mewn byd cyfalafiaethol, pres sy’n rhedeg popeth ac mae prynwriaeth yn rhemp.  Dwi yn mwynhau Nadolig - ac mae hynny’n cynnwys mwynhau rhoi anrhegion.  Ond sut medrwn ni wneud hynny heb brynu a rhoi pethau sydd ddim gwir angen ac efallai pethau bydd yn cael eu taflu mewn tipyn o amser?

Dwi yn hoffi rhoi anrhegion dwi wedi gwneud  ond dwi ddim yn un grefftus ofnadwy - felly does dim dewis eang.

 

Dwi’n gwneud pesto yn yr haf, ac mae llawer o’r jariau yn mynd i’r rhewgell - a bydd y rheini yn anrhegion. 




 Dwi hefyd yn plannu bylbiau mewn potiau - felly mae’r rheini yn anrhegion hefyd - a hefyd llyfrau ail-law,  Eleni penderfynais brynu fframiau ail-law a defnyddion luniau tynnais trwy’r flwyddyn i roi i fy mab a fy merch yng nghyfraith.  Dwi’n meddwl eu bod nhw yn edrych yn iawn a gobeithio byddan nhw yn eu hoffi. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home