Ailddysgu

Monday, 18 November 2024

Cynllunio ar gyfer y Gwanwyn

 Ro’n i wrth fy modd gyda’r tiwlips yn yr ardd eleni, er mai hap a damwain oedd ambell gyfuniad, e.e.. y tiwlips piws gyda’r “honesty” piws.  




Tybed be ydy’r enw Gymraeg am “honesty”?  Wnaf chwilio nes ymlaen.  Beth bynnag, unwaith mae’r planhigyn yn yr ardd mae’r hadau yn dod i fyny ble mynnon nhw - ac weithiau maen nhw yn y lle perffaith!  Ond eleni, dwi ddim yn gweld llawer o’r planhigion yma, felly dwi ddim yn meddwl bydd y cyfuniadau mor dda.  Tiwlip arall sydd yn mynd yn dda gyda’r lliw piws (yn fy marn i) ydy’r tiwlip oren “Ballerina”.  A dyma lun o’r tiwlip yma gyda’r “honesty” piws eto.  Dipyn fel marmite, efallai, ond dwi yn hoffi'r cyfuniad.


Dwi ddim yn cofio enw’r un piws, ond wnes i archeb sawl tiwlip piws eleni.  Ond dwi’n anghofus.  Rhois fy archeb i mewn, fel arfer i’r cwmni Peter Nyssen.  Maen nhw’n dda, ac yn bwysig, dim yn gwerthu tiwlips sydd wedi cael wedi cael triniaeth gyda phryfleiddiaid fel “neonicotinoids”.  (Ydy, mae o’n llond geg, ond yn air pwysig oherwydd mae o’n gwneud niwed mawr i wenyn).  Ond, doedd dim o’r tiwlips “Ballerina” ar ôl; felly archebais y rheina o gwmni arall - ag anghofio’n llwyr fy mod i wedi gwneud hynny, nes dod ar eu traws yn y garej ddoe

Felly heddiw, rhois ychydig o diwlips mewn potiau, ac ychydig mwy mewn darn o bridd yng nghanol yr ardd lle dwi’n tyfu blodau blynyddol, ac mae ’na ddarn bach arall wrth fynd allan trwy’r giât cefn, fel eu bod yn cael eu gweld wrth fynd allan a dod i mewn.  Mae 'na ychydig ar ôl i’w blannu ond dwi bron wedi gorffen gyda’r tiwlips rŵan, felly'r gorchwyl nesaf fydd gorffen rhoi’r ffa i mewn, ac adnewyddu’r potiau wrth y drws ffrynt.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home