Ailddysgu

Sunday, 3 November 2024

Yn ôl yn yr ardd, Tachwedd 3 2024

Ers i fi syrthio, ryw 6 wythnos yn ôl, dwi ddim wedi medru garddio, oherwydd brifais fy asennau ...ond erbyn rŵan maen nhw bron wedi mendio, a’r ardd yn galw allan am dipyn o ofal: felly, amdani!

Y peth roeddwn i isio gwneud oedd rhoi’r ffa llydan yn y pridd - wel, rhai ohonyn nhw beth bynnag.  Mae o’n bosibl dechrau tyfu’r ffa yma yn yr Hydref.  Maen nhw yn egino a dechrau tyfu ac wedyn yn sefyll dros y Gaeaf: hyd yn oed (fel arfer) os ydy’r tywydd yn garw.  Felly, mae’r cnwd yn dod yn gynharach ac mae llai o bethau i’w wneud yn y Gwanwyn, sydd yn amser prysur. 



Er ei bod hi’n hwyr yn y flwyddyn, mae 'na ddigon o liw o gwmpas yn yr ardd.  Dwi’n hoff iawn o’r cotoneaster yma, gyda’r aeron coch, coch, ac yn gobeithio bydd hon yn goeden lle bydd y fwyalchen yn dod i wledda - ac efallai bydd adar gaeafol fel y coch-dan-adain yn dod hefyd.  Dwi erioed wedi eu gweld nhw yn yr ardd.  Ond pwy a ŵyr?  Os bydd y tywydd yn garw, ac aeron yn brin ....O ran liw, 


mae’r cosmos yn blodeuo o hyd, a’r 
tithania - “mexican sunflower” .

Mae’r letys yn dal i wneud yn dda yn y tŷ gwydr a hyd yn oed rhai tomatos ar ôl hefyd.  Mond gobeithio cawn i un neu ddau ddiwrnod heulog -  i mi gael gorffen plannu’r ffa, a phlannu’r tiwlips i gyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home