Llyfrau (17 Hydref 2024)
Ers i fy ffrind awgrymu darllen “Winter in Madrid” gan C.J. Samsom, (sydd yn wych gyda llaw) mi es ymlaen i ddarllen sawl lyfr arall gan yr un awdur yn enwedig y llyfrau gyda’r cymeriad Shardlake. Yn anffodus dwi ddim wedi ei darllen mewn unrhyw drefn er eu bod nhw yn gyfres. Yn aml, dwi’n prynu llyfrau o siopau elusen a dyna sut brynais y “Revelation”. gan yr awdur yma. Y bedwaredd yn y gyfres, dwi’n meddwl. Fel arfer, roedd y nofel yn wych, ac na, does dim rhaid darllen y llyfrau yma yn y drefn gywir - ond falle ei fod yn well i wneud hynny. Felly dwi’n meddwl am fynd yn ôl a dechrau gyda’r gyntaf, “Dissolution”: un dwi heb ddarllen.
Ond yn y cyfamser dwi isio ailddechrau ar lyfrau Cymraeg. Dechreuais ar “Gwibdaith Elliw” gan Ian Richards ond rywsut wnaeth y llyfr ddim cydio llawer, ond dwi am drio eto. Efallai nad ydy hon y nofel i fi. Fel arfer, dwi’n hoffi nofelau eithaf traddodiadol gyda stori gref - a dydy hon ddim yn draddodiadol o gwbl. Fel mae hi’n dweud ar y clawr cefn: “Mae hi (y nofel) fel pos sy’n herio’r darllenydd...“ Llyfr arall sydd ar y silff, ond heb gael ei orffen ydy’r Fro Dywyll gan Jerry Hunter. Dwi’n gyndyn i roi’r ffidil yn y to, ond dwi heb gael llawer o lwyddiant yn darllen hwn chwaith. Felly, gan ei fod yn amser o’r flwyddyn lle mae hi yn nosi yn gynnar, dwi’n meddwl am roi un cynnig arall arni hi - a chawn weld!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home