Ailddysgu

Sunday, 1 December 2024

Yn yr ardd ac yn y gegin


Archebais ddau rosyn newydd  


(does 'na ddim llawer o rosod yn yr ardd) a ddoe rhois nhw i mewn i’r pridd.  Wrth wneud hynny, wrth gwrs, (fel mae'r pethau yma yn digwydd), daeth sawl bwlb cennin pedr i’r golwg, a hefyd rhois rai bylbiau gladioli ac allium i mewn, ond mae mwy o’r rheini wedi mynd i mewn heddiw.  Ond cyn gorffen yn yr ardd, es i i’r tŷ gwydr i dorri pupurau gwyrdd.  Mewn ffordd, dylwn i wedi clirio’r tŷ gwydr dipyn o amser yn ôl, er mwyn ei dacluso a glanhau, ond mae’r pupurau wedi dal ymlaen er does 'na ddim siawns iddyn nhw droi’n goch, bellach.


Felly penderfynais eu defnyddio nhw yn y gegin mewn piperade.  Rysáit Ffrengig dwi’n meddwl, lle mae cymysgedd o nionod, pupurau a thomatos mewn wy wedi ei sgramblo.  Mae hi'n dipyn o amser ers i fi goginio piperade  ond roedd yn ddigon blasus, ac roedd yn bosibl gwneud salad gyda’r dail o’r tŷ gwydr.

 

Heddiw roeddwn yn gobeithio tynnu lluniau o rai o’r adar yn yr ardd.  Tra oeddwn yn plannu’r bylbiau ddoe, roedd haid fach o ditw cynffon-hir o gwmpas ond doedd y camera ddim gen i – ac roeddent yn symud o gwmpas beth bynnag.  Adar hardd ydy’r rhain – dyma luniau a dynnais rai blynyddoedd yn ôl.






Ond chwit chwat.  Maen nhw yn dod mewn haid fach ac yn symud yn gyflym – ac yn sydyn, maen nhw wedi mynd!  Ddoe roeddent yn symud o gwmpas yr ardd ac weithiau yn agos iawn.  Felly heddiw es i allan, bron yr un amser o'r prynhawn, gyda fy nghamera, ond wrth gwrs, wnaethon nhw ddim dod i’r ardd heddiw!  Profiad felly ydy hi gyda bywyd gwyllt.  Rhaid cael digon o amynedd a dysgu am ymarferion yr aderyn neu’r anifail.  Ond mae 'na wastad digon o bethau diddorol.  Mae gwenynen wedi bod yn hedfan o gwmpas y goeden ceirios yn yr ardd ffrynt.  Er ei bod hi'n hwyr yn y tymor, mae gwenyn* yn medru bod allan yr amser yma o’r flwyddyn, ac mae’r goeden (sydd yn blodeuo yn y gaeaf) yn llawn o flodau ar y funud.  Efallai caf lun! 

*Dylwn i egluro be sydd gen i mewn golwg yn fama: gwenynen flewog – bumble bee yn Saesneg, ond mae enwau Cymraeg ar y creadur yma yn amrywio gymaint.  Cacynen ydy’r enw yn Llyfr Iolo, ond i fi, “wasp ydy” cacynen. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home