Ailddysgu

Wednesday, 27 November 2024

27 Tachwedd: Enwau Cymraeg



Yn fy mlog diweddar, sgwennais am y tiwlips oren yn tyfu gyda’r planhigion “honesty” (lunaria) a doeddwn ddim yn ymwybodol o’r enw Cymraeg.  Ers hynny, dwi wedi darganfod (diolch Gwen) bod yna sawl enw i’r planhigyn yma fel, e.e., arian parod, arian cybydd, ceiniogau dyn tlawd a blodau sbectol.  Y rheswm am yr enwau yma i gyd, dwi’n meddwl, ydy bod yr hadau dipyn bach fel arian.

 

 

Ond yr enw gorau, yn fy marn i, ydy “sbectol nain”.  Fel arfer, mae yna lawer mwy o enwau i gael ar gyfer adar neu anifeiliaid yn Gymraeg nag sy’n bodoli yn Saesneg.  Ond gyda sbectol nain, mae ’na lawer o enwau Saesneg hefyd, yn ôl yr RHS, ond fy mod heb ddod ar eu traws nhw.   ac yn cynnwys pethau tebyg, e.e. “Chinese money”, “grandpa’s specs”  a “money flower”

 

Mae gwreiddiau geiriau yn ddiddorol ond dydyn?  Mi es i i bori drwy Lyfr Natur Iolo, rhag ofn bod “sbectol nain” yno, ond doedd o ddim.  Ond wrth sbecian mi ddois ar draws enw am borage, (borago officionalis). “Tafod y bwch”.  

 

Beth bynnag, i fynd yn ôl at y tiwlips, dwi wedi llwyddo i blannu pob un erbyn hyn.  Roedd rhaid peidio dros y penwythnos, gyda’r glaw trwm a’r gwyntoedd cryf, ond heddiw, yr oedd yn ddigon sych, y prynhawn yma, i roi tri gwahanol fath, sef tiwlip mariola, (piws hyfryd)  “tulipa lemon beauty”;  (gwyn gyda thipyn o felyn) a “Black hero”, piws tywyll.  Gobeithio bydd y cyfuniad yma yn edrych yn dda! 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home