Am Dro
Dwi wastad wedi cerdded a mwynhau cerdded, ac wedi mynd ar wyliau cerdded am flynyddoedd. Y dyddiau yma dwi ddim yn gwneud hynny, ond dwi yn cerdded yn lleol ac ar fy ngwyliau. Doedd y tywydd gwyntog a gwlyb ar ddechrau’r flwyddyn newydd ddim yn dywydd lle'r oedd rhywun isio cerdded. Ond erbyn dydd Mercher, yr aili o’r mis, roedd y rhagolygon mor dda. Felly ar ôl cinio es allan gyda ffrind am ddwy awr ac mor braf oedd cael cerdded gyda’r haul yn tywynnu.
Mae llwybr yn rhedeg lle'r oedd yr hen reilffordd ac mae hi’n lôn lle medrwch chi gerdded neu feicio. Dydy o ddim yn ddiddorol ofnadwy ond ar ôl rhyw ugain funud dach chi’n cyrraedd stad o’r enw “Giffard Park’ ac wedyn mae cyfle i fynd ar hyd y gamlas, neu ar draws caeau i ”Great Linford“, hen stad hardd. Ond cyn hynny, rhaid mynd heibio coeden sydd yn llawn o uchelwydd. Yma, mae hyn yn rhywbeth eithaf anarferol. Wn i ddim pam mae uchelwydd yn y goeden yma, a does dim coeden arall i’w gweld, gydag uchelwydd, yn agos.
Ers i fi ddarganfod y goeden ychydig o flynyddoedd yn ôl, rŵan dwi wedi bod yn chwilio am uchelwydd yn yr ardal. Wrth edrych a sylwi, mae mwy nag o’n i'n ei feddwl, ond dim ardal ”uchelwydd“ ydy hi.
Roedd ddoe yn ddiwrnod arall braf a heulog, ac fel arfer ar ddydd Gwener dwi’n cyfarfod â ffrind am ginio ac wedyn mynd am dro. Ddoe cerddon ni o’r “Barge” (tafarn ar y gamlas fel mae’r enw yn awgrymu) i bentre arall o’r enw “Milton Keynes” (MK): ia, ru’n fath a’r ddinas newydd.
Fel dwi wedi ei ddweud mewn blogiau eraill, cafodd dinas Milton Keynes ei adeiladu o gwmpas, ac yn cynnwys, trefi a phentrefi. Mae’r rhain wedi newid dipyn ond hefyd wedi cael eu diogelu. Mae’r eglwysi yn hen, ac mae ‘na thai hen hefyd. Ardal eithaf llwyddiannus yn y gorffennol, fel gwelwch chi o’r maenordy. Braf cael mynd am dro yn yr haul am ddwy awr.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home