Y Robin Goch a dysgu ieithoedd
Robin Goch ar ben y Rhiniog. Wrth gofio’r gân fach yma, chwiliais y we, a dod ar draws y tamaid yma ar Youtube. Dach chi’n cofio “Hwb” i ddysgwyr ar S4C? Clip bach yn fama o Nia Parry a Beti George. A dwi wedi bod yn meddwl – ffordd mor dda o ddysgu ydy defnyddio caneuon. A tybed os oes 'na fwy o ganeuon a hwiangerddi am adar yn Gymraeg? Neu falle fi sydd yn adnabod mwy (nag yn Saesneg) oherwydd bod fy ysgol gyntaf yn Gymraeg. Beth bynnag, am ffordd wych i ddysgu iaith, trwy gerddi a chaneuon. Ac os ydy hwiangerddi yn rhy fabïaidd mae 'na ganeuon eraill fel siantis y môr. Fel Fflat Huw Puw – gweler yn fama (er efallai bydd y ffeil yn rhy fawr)
Ryw bedair blynedd yn ôl, roedd robin goch yn y warchodfa natur (sydd yn eitha agos i ni) a oedd wedi dod yn ddof iawn ac yn fodlon bwydo o’ch llaw. Be oedd angen gwneud oedd rhoi pryf genwair yn eich llaw ac unwaith y gwelai y bwyd, roedd yn hedfan atoch chi ac yn bwydo o’ch llaw. Wrth gwrs, roedd yn anodd tynnu’r llun o’r broses a chithau’n ei fwydo! Beth bynnag dyma lun o Bob.
Y peth trawiadol oedd ei fod mor, mor ysgafn.
Ar ôl hynny ceisiais gael robin yn yr ardd i wneud yr un peth ond dim lwc... Dyma lun o robin a dynnais llynedd, wrth ymyl y comin, a dyma lun cyw robin yn yr ardd. Roedd o’n medru hedfan, ond doedd o ddim wedi datblygu brest goch.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home