Darllen dros 'Dolig
Wrth i fi sgwennu hwn mae’r gwynt yn hyrddio tu allan ac mae hi’n glawio’n drwm. O ran y tywydd tydi hi ddim yn ddechrau addawol i flwyddyn newydd. Ond ta waeth, medrwn ni swatio yn y tŷ gyda llyfr neu raglen dda ar iPlayer. Bob Nadolig dwi’n gwneud yn siŵr bod gen i o leiaf un llyfr da i’w ddarllen dros y cyfnod. Dwi’n tueddu i ddarllen yn gyflym a dwi ddim eisio rhedeg allan o lyfrau!
Ers i fi ddechrau darllen llyfrau Cymraeg, bydd o leiaf un llyfr Cymraeg ar y rhestr. Eleni gofynnais i ffrind am “Nelan a Bo” gan Angharad Price. Doedd dim llawer o fanylion i’w gael – ond ei bod yn nofel hanesyddol. Mae nofel arall, “Caersaint”, gan Angharad Price, wedi ei lleoli yn fy hen dref, Caernarfon, a hi ydy un o fy hoff nofelau.
Mae’n ffraeth, yn hygyrch, yn ddarllenadwy iawn ac yn hwyl. Ond, dim felly campwaith Angharad Price, O Tyn y Gorchydd: dim i fi, beth bynnag. Mae yma sgwennu hyfryd yn y llyfr, yn sicr, ond mi roedd yn heriol iawn (a bydd rhaid mynd yn ôl ati). Dwi hefyd wedi darllen Ymbapuroli, casgliad o ysgrifau. Ond ‘falle'r dylanwad mwyaf ydy fy mod wedi clywed Angharad Price yn darlithio – ac mae hi mor dda ac yn ysbrydoledig.
Dwi heb orffen Nelan a Bo eto. Mae hi’n nofel anarferol, ‘swn i’n dweud. Ydy, mae hi’n nofel hanesyddol ond yn wahanol i nofelau eraill hanesyddol. E.e.. llais y dudalen gyntaf ydy llais brân, sydd yn byw (yn nythu) yn nhô'r capel. Cigfran ydy’r aderyn.
Wedyn dan ni’n cael hanes dau blentyn, Nelan a Bo, mewn cymuned wledig yn Eryri. Bywyd caled, lle mae Nelan yn colli ei theulu i gyd ond yn cael mynd i fyw gyda dynes leol ac yn profi cariad yn fanno. Mae Bo yn chwarae gyda Nelan ond wrth dyfu i fyny (ond yn ryw ddeuddeg) mae rhaid iddo fo ymuno â’r chwarel, er bod ganddo goes gloff. Mae’r sgwennu yn hudolus, ond eto, i fi, braidd yn heriol mewn llefydd. Cyfle felly i ddysgu geirfa newydd.
Profiad gwahanol iawn oedd darllen Dan y Ddaear. Dyma’r llyfr ditectif diweddara gan John Alwyn Griffiths, sydd wedi sgwennu 13 nofel erbyn hyn. Mae pob un mewn Cymraeg da, gyda phlot da a chyflymder addas, a gan fy mod yn hoff o lyfrau ditectif, dwi’n eu mwynhau i gyd, yn fawr iawn. Mae’r un yma yn un o’r gorau - yn wir mae JAG yn medru sgwennu – ac mae o’n defnyddio ei brofiad fel heddwas hefyd.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home