Ailddysgu

Friday, 10 January 2025

Tywydd oer ond disglair.

Wel, mae hi wedi bod yn oer ofnadwy yn fama.  Minws 5 bore ddoe  (ac ia, mi wn ei fod llawer gwaeth mewn llefydd eraill fel yr Alban). Ond, am y tri diwrnod diwethaf, mae hi hefyd wedi bod yn ddisglair, gyda golau anhygoel.  Felly roedd rhaid mynd allan am dro a mynd â’r camera gyda fi.  Ond, mae’r camera arferol gyda’r lens hir yn drwm ac yn brifo fy nghefn, felly, ddoe, es a’r camera bach gyda fi.  Yn sicr dydy o ddim cystal â fy nghamera arferol, y Canon, ond mae o yn eithaf ysgafn.

 

Dydd Iau mi es i gyda ffrind i gerdded o gwmpas llyn Tongwell.  Dyma un o’r llynnoedd artiffisial sydd o gwmpas Milton Keynes (MK).  Dwi’n eithaf hoff o’r llyn yma, oherwydd medraf gerdded yna o fy nghartref ac mae ’na ddigon o goed o gwmpas.  Yn ystod yr Hydref mae 'na ddigon o fadarch hefyd.  Mae drygwn wedi eu gweld ar y llyn, ond dwi ddim wedi bod mor ffodus i'w gweld nhw (eto!).  Ond tynnais lun o’r crëyr glas a oedd yn pysgota.




Ddoe, roedd yn amser i lapio i fyny yn gynnes eto a mentro allan ar y comin yn yr haul a’r oerni.  Braf oedd gweld y cudyll coch: dim llun da iawn ond mae’n amlwg ei fod o’n trio cadw’n gynnes wrth fflwffio i fyny ei blu.  




Ac wedyn mi es i am dro ar ôl cinio gyda ffrind, o gwmpas llyn arall: Willen.  Llyn artiffisial arall, wrth gerllaw hen bentref Willen: pentref bach iawn.  

 

Mae’r “Peace Pagoda” gerllaw y llyn, a chafodd ei adeiladu yn 1980 gan mynachod a lleianod o draddodiad “Nichiren”.  https://www.theparkstrust.com/our-work/public-art/peace-pagoda/ a ddoe, gyda golau’r prynhawn, r’oedd o’n hardd iawn yn yr haul.





0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home