Yn yr ardd 17 Chwefrir
Er mai ond mis Ionawr ydy hi, mae rhai o’r blodau cynnar yn dod allan yn yr ardd, fel hon: math o “squill” dwi’n meddwl.
Ond wedi codi ei phen mae hi, ond yn fuan bydd llawer ohonyn nhw allan. Mewn llecyn arall, mae cennin Pedr ar fin dod allan hefyd. Ac yn y tŷ gwydr, mae’r letys bach yn tyfu yn y lluosogwr (os mai hon ydy’r gair cywir?), fel gwelir, ond bydd yn cymryd dipyn o amser cyn byddant yn barod i’w fwyta!
Dwi’n trio bwydo a gofalu am yr adar sydd yn dod i’r ardd, ac weithiau mae hynny’n cymryd dipyn o amser. Dros y tywydd rhewllyd, roedd y dŵr wedi rhewi bob dydd, felly'r gorchwyl gyntaf yn y bore, cyn mynd allan am dro gyda Teo, oedd rhoi dipyn o ddŵr wedi ei berwi ar y dŵr rhewedig fel bod yr adar yn medru yfed. Wedyn tsecio bod digon o fwyd ar gael. Mae’r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn rhoi cyngor am ofalu am adar yn ystod y gaeaf, ac mae glanhau’r bwytawyr yn bwysig.
Treuliais un prynhawn oer
Yn y diwedd cefais lyn golew o ditws cynffon hir. Fel arfer, roeddent yn symud yn gyflym iawn.
Mae’r ffa llydan, a rhois yn y pridd ym mis Tachwedd yn dod ymlaen yn dda, a ddoe rhois res arall i mewn. Byddant yn barod erbyn mis Mai.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home