Ailddysgu

Tuesday 8 August 2023

Cyfranu i'r blog

Dwi wedi gaddo i fy hun y baswn i’n cyfranu i’r blog yma bob wythnos yn ystod yr haf.  A wedi methu.  Dros y dair flynedd diwethaf dwi wedi bod digon ffodus i gael gwersi o Gaerdydd bob wythnos: yn ddiweddar "Gloywi".  A’r prif mantais ydy (ar wahan cael hwyl a dysgu gyda phobl eraill) fy mod yn cael adborth ar fy sgwennu - a chyfle ychwanegol i siarad Cymraeg bob wythnos.  Ond wedi dod i arfer a’r trefn yma, does na ddim yr un gyfleoedd i gyfarthrebu yn y Gymraeg dros yr haf....

Does dim y disgybliaeth o’r dosbarth Cymraeg i wneud i fi feddwl am fy ngramadeg - ac ystyried os ydy hyn a hyn yn gywir, neu ddim?  Dwi yn cael sgwrs Cymraeg o leiaf unwaith yr wythnos gyda fy ffrind Gareth, a weithiau gydag Elizabeth sydd yn byw yn eitha agos, a bob mis, fel arfer, gyda’r grŵp lleol (Ond dydan ni ddim i gyd yn lleol bellach ac yn siarad ar zoom y dyddiau yma.)  A dwi'n darllen llyfrau Cymraeg, a.y.y.b.  OND.

Dwi ddim yn yr Eisteddfod.  Mae’n anodd heb car (a faswn i ddim yn gyrru’r holl pellter beth bynnag.  A mae o’n ormod i ofyn i fy ngŵr edrych ar ol yr ardd a’r tŷ gwydr a’r ci....Felly be wnes i oedd mynd i ŵyl Arall yng Nghaernarfon am benwythnos ym mis Gorffenaf, ond rŵan dwi isio bod yn yr Eisteddfod.  Mae o’n edrych yn wych!  Ond diolch byth mae na ddigon i’w gael ar S4C.  Dim yr un peth, wrth gwrs, a chrwydro ar hyd y maes a picio i mewn i hwn a’r llall a siarad gyda phobl.  Ond, dyna oedd y penderfyniad.

Felly rhaid bodloni gyda gwylio’r uchafbwyntiau.  A hyd at hyn, mae o wedi bod yn ardderchog.

Cofi (bron) yn cipio’r coron prynhawn ddoe.  Llongyfarchiadau i Rhys Iorwerth.  A rŵan, amser i mi fynd allan yn y glaw i blannu (dwy ’n’ cofia, Ann) y blanhigion a brynais ddoe. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home