Ailddysgu

Monday 16 January 2023

Taith cerdded gwych a lluniau ofnadwy


Ddoe, ymunais a taith cerdded wedi ei drefnu gan gymdeithas MKNatural History o gwmpas Llyn Tongwell.  Dydy’r llyn ddim yn fawr a mae hi'n agos (25 munud cerdded) a felly dwi’n mynd eitha aml gyda’r ci.  

 

Ond mae rywbeth fel hyn yn wir gwneud i chi feddwl.  I fi, uchafbwynt y daith oedd gweld sawl linos bengoch (redpoll yn ol llyfr Dewi Lewis) (ond er tynnu sawl lun gyda lens mawr, doedd dim llun gwerth cadw!)  Mae mynd gyda grŵp o naturiaethwyr wedi dangos i fi faint o adar sydd ar gael mewn llecyn os dach chi’n gwybod am be dach chi’n chwilio, lle i chwilio ac os dach chi’n dda am weld adar. Dywedodd un dyn, cyn-cadeirydd y gymdeithas ei fod wedi gweld sawl aderyn yna, mewn cyfnod oer, na faswn erioed wedi dychmygu, fel y guach.  Felly byddaf yn chwilio yn fanwl tro nesaf!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home