Ailddysgu

Monday 22 April 2024

Y Dderwen

 Roedd ddoe yn ddiwrnod hyfryd lle'r oedd Gwanwyn yn ei anterth. (Erbyn heddiw mae hi yn bwrw eto...) Ar fore Sul, os ydy o’n bosibl dwi’n trio mynd am dro am ryw awren cyn brecwast. Fi a’r ci.  Wrth adael y comin, cerddon ar hyd llwybr bach sydd yn arwain at berllan gymunedol a chyn hynny hen dderwen.  Dwi mor hoff o goed dderwen, ac mae cymaint o fywyd gwyllt yn byw mewn neu’n gysylltiedig â choeden dderw.


 

Mae hon yn siâp hyfryd hefyd ac yn hardd ym mhob tymor.  Dyma hi ym mis Medi.  



Ac ym mis Tachwedd.




Dwi’n teimlo’n ffodus iawn bod gymaint o harddwch o’n cwmpas yma.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home