Ffwng a mwy o enwau Gymraeg
Dwi wedi bod yn darllen mwy am enwau madarch yn “O’r Pedwar Gwynt”: rhifyn Hydref 2024. Erthygl gan Morgan Owen. Ar ôl y mabinogi, yn ôl Morgan Owen, does dim llawer o sôn am fadarch am ganrifoedd: “Wedi’r cyfeiriadau cynnar, cymharol brin yw’r sôn am fadarch yn y Gymraeg, ar y cyfan” ac mae Morgan yn cyfeirio at “prinder llwyr, bron, o enwau Cymraeg cynhenid am fadarch neilltuol”. Pan dych chi’n meddwl am faint o enwau sydd ar gael ar gyfer blodau, roedd hyn yn dipyn o syndod i fi.
Mae yna ambell un: “Y gingroed” ydy’r stinkhorn (Phallus impudicus)
ac mae hi’n debyg bod madarch y gwybed yn cyfeirio at Amanita muscaria: madarch hardd iawn ond gwell peidio eu bwyta! (Er bod rhywbeth neu rywun wedi bod ati gyda'r un yn y llun!)
Yn bendant mae madarch yn boblogaidd ar y funud. Mae llyfr Merlin Sheldrake, Entangled Life” wedi cael gymaint o ganmoliaeth ac mae o ar y silff yn aros i fi ddechrau ei ddarllen tra mae rhaglen lle mae Sheldrake yn siarad am ffyngau ar gael ar yr Iplayer (Fungi: the web of life).
Es am dro ar ôl cinio, y prynhawn yma, ac roeddwn mor falch o weld madarch bach yn bodoli ar bont dros yr afon:
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home