Ailddysgu

Friday, 20 June 2025

Yn yr ardd Mehefin 19

O’r diwedd dwi’n ôl gyda phost i’r blog.  Ar ôl ymweliad i’r Alban (“Aigas field centre”- ac efallai bydd mwy am hynny nes ymlaen), dwi’n ôl yn dal i fyny gyda’r ardd a’r teulu ac yn dod i arfer gyda’r tywydd poeth.  Gan fod ein gardd ni yn sych fel arfer, does dim rhaid meddwl gormod i ddychmygu sut mae pethau ar y funud.  Ond yr unig ateb ydy defnyddio llwyth o gompost, sydd yn helpu’r pridd i beidio sychu gormod, a thyfu planhigion sydd yn medru ymdopi.  Dyma sut yr oedd yr ardd pan gyrhaeddais yn ôl o fy ngwyliau.




 Fel y gwelwch mae’r bysedd y cŵn yn ffynnu.  Planhigyn sydd yn ymdopi gyda llefydd gwlyb a llefydd sych: yn hoff o’r Alban ac o Gymru ond hefyd yn hapus pan mae hi’n sych.  Yn yr ail lun
 mae’r “geraniums” a’r rhosyn “rambling rector” sydd yn wych pan mae hi’n blodeuo, ond erbyn hyn, mae’r blodau bron wedi mynd ac yn gadael blerwch.
  Felly, ar wahân i ddyfrio, y jobsys ar y funud ydy cynhaeafu a thynnu ambell i ddarn o chwyn.  



Dyma'r cynhaeaf o ffa llydan a gawson ni ar gyfer cinio dydd Sul diwethaf - ac ar wahân i’r rhain, mae ffa yn y rhewgell a basged arall wedi ei pharatoi am ginio a’r rhewgell.  Tymor ardderchog i’r ffa llydan, nad ydynt wedi gorffen eto..

 



Tymor ardderchog, hefyd, i’r mafon a’r mefus.  Dydy mefus ddim yn rhewi’n dda o gwbl. Felly rhaid bwyta nhw!  Sydd ddim rhy anodd.  A dyma bowlen o fafon a aeth i’r rhewgell - lle mae sawl bocs o fefus ar gyfer y dyfodol.  Mmmmm.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home