Haul mis Ionawr - a tywydd ddiflas
Mae’r tywydd yn ddiflas eto: llwyd a smicio glaw. Ond, cawson ddiwrnod hyfryd dydd Sul - llawn haul, a gwelais a chlywais yr ehedydd gyntaf y flwyddyn (i fi!). Wastad yn codi calon. Anodd cael llun da o ehedydd - dyna un prosiect eleni - ond dyma lun o’r gorffennol.
Ac roedd dydd Iau yn hyfryd hefyd, er i’r haul diflannu yn y prynhawn, felly i ffwrdd i’r coed agosaf. Mae ‘na rywbeth am goed, hefyd, sydd yn dod a thawelwch pan maen nhw o gwmpas. Dydw’i ddim yn byw mewn ardal goediog ond mae ‘na choedwig fach hynafol dim yn bell i ffwrdd. “Linford Wood” ydy hon ac mae hi’n goedwig hynafol, ond bach.
Er hynny, roedd hi’n braf iawn cael crwydro trwy’r coed.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home