Gwyl Ddewi Arall: 2
Cyn i fi anghofio, meddyliais y basai hi’n syniad da rhoi dipyn o gofnod o weddill Gŵyl Arall eleni, cyn i fi droi yn ôl at yr ardd....
Cawson ni ddydd Sadwrn braf ar gyfer yr orymdaith a oedd yn gorffen ar y Maes gyda band pres a chanu. Cyn hynny, ’roedd lansiad meddal o’r llyfr newydd To gan Meinir Pierce Jones, a oedd yn llawn dop. Difyr clywed am y llyfr, sydd yn amlwg yn wahanol iawn i Gapten. Dwi heb ei brynu eto, ond byddaf yn ei archebu. Ar y funud, mae digon o lyfrau ail-law o’r siop elusen i'w darllen. Prynais y rhain, hefyd, yn “Palas Print” a darllenais ynhw
cyn gadael Caer…
Prynhawn yn yr Anglesey gydag Accordions dros Annibyniaeth: sesiwn da ac eitha hir.
Yn anffodus daeth y glaw ar fore Sul a hithau’n amser mynd am dro hanesyddol (arceolegol) gyda Rhys Mwyn. Y Rhufeiniaid oedd y pwnc y tro yma. (Mae ‘na lawer o haenau yng Nghaernarfon ac o gwmpas….Y Celtiaid, y Normaniaid a’r Rhufeiniaid). Rhyfedd meddwl , pan ddaeth y Rhufeiniaid yr oedd y dref gyd yn bodoli yn Segontium, dim wrth ymyl y môr, lle buasai hi wedi bod yn llawn mwd. Ac yn ôl Rhys, y Rhufeiniaid oedd y rhai cyntaf i ddefnyddio llechi ar dôau'r tai.
Er bod digwyddiadau eraill i ddod – ‘roedd rhaid i fi fynd yn ôl erbyn ar ôl cinio Sul.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home