Ailddysgu

Thursday 2 June 2011

Cwmni Da a Byw yn yr Ardd



Mi ges i ddiwrnod cyffrous ddoe hefo Cwmni Da yma yn ffilmio darn bach ar gyfer y rhaglen Byw yn yr Ardd. Ar ôl blogio am y perllen angyfreithlon mi ges i ebost can cynhyrchwyr Byw yn yr Ardd yn gofyn am mwy wybodaeth a.y.y.b. A’r canlyniad oedd.... cynllun i ffilmio yn yr ardd yma - a dyna be ddigwyddodd ddoe.

Doedd dim llawer o rybudd a felly r’oedden i yn gweithio’n galed ar yr ardd am bythefnos - ac yn medru taflu pethau allan a sortio allan pethau nad oedden ni wedi gwneud dim byd hefo am oes! Chwynnu; dyfrio; tocio; torri’r gwallt a tacluso - a mwy o ddyfrio, a trio llenwi un neu ddau o’r bylchau lle bu farw planhigion dros y gaeaf caled. Hefyd, r’oedd rhaid trio ehangu fy ngeirfa garddio - a dysgu’r geiriau Cymraeg (ond i anghofio nhw’n syth bîn!) Mae o wedi bod yn frysur iawn yma.

A gewch chi weld y ganlyniad ar y rhaglen. Wn i ddim pan fydd yn cael ei ddarlledu. A dwi’m yn gwybod os dwi wedi cyfathrebu pan fy mod I yn garddio. I fi, mae garddio yn dod a sawl pethau i’w gilydd: (1) bod cyn wyrdd a bosib - a mae medru bwyta llysiau o’r ardd yn fy ngalluogi i cael bwyd lleol iawn - a mewn tymor - a defnyddio’r gwastraff a chwyn i wneud compost; (2) fy diddordeb mewn natur - mae gerddi yn rhoi gynefin bwysig a lloches i rai adar, drychfilion fel gwennyn ac annifeiliaid fel llyffantod - yn enwedig a (3) cael bwyd blasys sy’n ffres. (Oes na gair well am “fresh“ tybed?), Ond fel dwi’n dweud, dwi ddim yn gwybod os bydd hyn yn amlwg. R’oedd o’n anodd cofio be o’n i isio deud a hefyd cofio’r geiriau Cymraeg weithiau.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home