Ailddysgu

Tuesday, 5 July 2011

Ymladd y malwod


Cyn mynd ar ein gwyliau, cliriais y gwely ffa (a oedd wedi methu, yn y bôn), wrth adael y ffa (Ffrengig) a oedd wedi llwyddo - a rhois ffa newydd a oedd wedi cael eu dyfu yn y tŷ gwydr i mewn. A wyddoch chi be? Ia, mi ddois yn ôl, a r’oedd y rhan mwyaf wedi mynd - dim wedi mynd yn llwyr; jyst gadael coes bach lle mae’r gweddill o’r blanigion wedi cael ei frathu i ffwrdd. Gwlithenod? Neu malwod, mwy debyg, sy’n byw yn y wal bric. Mae’r hyfryd cael wal rown yr ardd i gyd. Mae’r rhoi cysgod i’r planhigion, a ia, hefyd i’r malwod.

R’on i bron am roi’r ffidil yn y tô, ond penderfynnais cael un cynnig eto. Felly mae mwy o hadau wedi mynd i fewn a fel gwelwch yn y llun, mae ’na hefyd digon o’r pilsen bach glâs yn erbyn y malwod.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home