Ailddysgu

Monday 6 June 2011

Ar lafar: tafodiaeth Cymraeg


Ro’n i am flogio am teithio i’r gwaith heddiw, ond nes i wylio Ar Lafar – rhaglen newydd am tafodiaeth. Ifor ap Glyn sydd yn cyflwyno’r rhaglen a mi fydd o yn crwydro trwy Cymru. A wyddoch chi be? R’oedd y rhan gyntaf o’r rhaglen cyntaf yn dod o Gaernarfon – fy hen dre i. Ac r’oedd Ifor an Glyn yn sôn am rhai cofis hefo dim digon hyder hefo ei hiaith ei hunan (sy’n peth drist). Dwi’n cofio’r geiriau am pres ( yr hen bres) fel niwc (ceiniog) a hog (swllt). Ac o’r diwedd dwi wedi darganfu be ydi giaman – cath. Dyma wefan sydd yn rhoi dipyn mwy o wybodaeth am iaith y cofis.

http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/caernarfon/pages/geiriau.shtml

R’oedd yr ail rhan yn edrych ar yr archif yn Sain Ffagan a sut r’oedd y tafodiaeth yn cael gofnodi. Rhaglen ddiddorol – a dwi’n gobeithio dod I dallt dipyn o dafodiaeth arall trwy’r cyfres yma yn y dyfodol. Dwi'n cael trafferth hefo rhai tafodiaeth - e.e. dwi wedi bod yn darllen llyfrau Gwen Parrott (mwy mewn blog arall), a dwi'n mwynhau nhw, ond dwi'n cael hi'n annodd dallt rhan o'r tafodiaeth.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home