Mafon, Mwyalchen a Methiant yn yr ardd
Mae' rhai o’r mafon yn barod ond does na ddim llawer i'w gweld. Dwi'n meddwyl bod y fwyalchen sy'n nythu yn y coden lle roedd yr ieir (a lle mae'r tatws eleni) yn bwyta nhw. Dwi'n cofio fy ffrind Pat yn dweud ei bod hi ond yn tyfu mafon hydref ar ei rhandir achos bod yr adar yn cymryd nhw i gyd. Ar y pryd, doedd dim problem gennyn ni - a does dim problem wedi bod ers hynnu hyd at eleni. Mae o wedi bod yn sych iawn iawn a falle bod yr adar dim yn medru darganfu ei bwyd arferol. Beth bynnag - mae'r mafon yn diflannu. A dwi'n meddwl unwaith iddyn nhw gael blas ar y ffrwythau, bydd na dim mynd yn ôl. O wel.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home