Trip i Gaernarfon rhan 1. Gŵyl Caernarfon, taith natur a'r Foryd
Aethon ni i Gaernarfon dros y penwythnos; i ymweld a bedd fy rhieni, ond hefyd i fynd i rai ddigwyddiadau a oedd yn cymryd lle fel rhan o'r Gŵyl Arall. Un o'r uchafbwyntiau i fi r'oedd y taith cerdded natur, o gwmpas y dre a dipyn o'r Foryd gyda dau tywysydd ardderchog. Gwelson sut r’oedd y calchfaen sydd yn rhan o’r muriau hen y dre yn cynnwys ffosilaidd - a hefyd sut oedd y tywodfaen wedi cael eu ddefnyddio i roi haen arall hefo lliw gwahannol, ac amrywiaeth helaeth o blanhigion yn tyfu ger y castell a ger y traeth dros yr Aber. Edrychon hefyd ar yr adar: doeddwn i ddim yn disgwyl gweld pibydd y graig (neu corhedydd y graig - rock pippit) yn y dre ei hyn wrth y waliau anferth. Ond yn ddiweddar dwi'n meddwl y medra i adnabod yr aderyn hwn sy'n debyg i bibydd y waun (neu corhedydd y waun - meadow pippit) ond yn cael ei ddarganfod mewn cynhefin gwahannol. Ond y peth gorau oedd y sgwrsio am y flodau a 'r adar a'r gwybodaeth helaeth sydd gan y tywysydd am bywyd gwyllt yn yr ardal. Gwelson creÿr fach gwyn, digon o wylanod penwaig a penddu. Credwch neu beidio ond mae niferau y gwylan penwaig yn gostyn dros y wlad - ond mae na ddigon yng Nghaernarfon, beth bynnag ( a gwelir y llun!).
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home