Ailddysgu

Wednesday 8 February 2012

Y Cwrs Meistroli a Sgwenu

Dwi ddim wedi sôn llawer eto am y cwrs Meistroli dwi’n gwneud (trwy’r pôost). Hyd at hyn dwi wedi cyraedd uned 13 a dwi’n mwynhau’r cwrs yn arw. Mae ‘na wahanol pethau ag elfennau ym mhob uned: darllen, gwrando, gwneud ymaerferion a sgwenu a dwi’n meddwl mai y gwaith sgwenu ydi’r peth anodda, fel arfer, i fi (ond rhaid dweud bod yr ymareferion gramadeg yn anodd hefyd, wiethiau). Mae'r proses o gyfansoddi'r darn ysgrifenedig - a falle edrych ambell beth i fynny yn ymarfer da. Dwi’n hapus pan dwi wedi gorffen y gwaith a wedi ei yrru i fy nhiwtor – ac yn edrych ymlaen at gael yr adborth. Ond fel arfer, dwi’n cael fy siomi pan dwi’n gweld faint o gangymeriadau dwi wedi gwneud.

Yn yr uned diwethaf, roedd rhaid gwneud adolygiad o lyfr. Mae hwn yn rhywbeth sydd yn anodd (dwi’n meddwl) ac yn y diwedd, mi sgwennais un ar llyfr nad oeddwn wedi mwynhau yn fawr iawn (Dim Heddwch) ac un arall am “Y Gwyddel” (rywbeth debyg i be sgwennais yn y blog).

Fel arfer, r’oedd yna lu o gangymeriadau! Penderfynais dadansoddi'r rhai diwethaf, am hwyl, a dyma'r canlyniadau!
(1) Yn y lle cyntaf (fel disgwylir) - traegliadau. Geiriau sydd angen treugliad ond sydd dim wedi cael un. A hefyd, wrth gwrs, rhoi treigliad lle sydd ddim angen!
(2) Wedyn, ail, be dwi'n galw yn "cangymeriad gair" neu patrwm. Fel enghraifft:“dwi’n falch cael“ yn lle cael yn lle “dwi’n falch o gael“; argyhoeddi" yn lle "argymell" (od iawn!) Meddylion yn lle meddyliau. Pethau felna.
(3) Ac yn drydydd lle, camsillafu: elysen yn hytrach na elusen, a.y.y.b.

Y trô yma, dwi wedi edrych ar yr arbrawf yn fanwl, a dwi wedi trio dysgu y patrymau cywir a rhai o'r treugliadau. Ond bydd rhaid gweld a byddaf yn medru cofio rhai ohonyn nhw!Ond wyddoch chi be? Os fasa 'na ddim cangymeriadau o gwbl, bydd ddim byd i ddysgu! Dim pwynt bod ar y cwrs. Felly, be dwi eisiau ydi gwallau da - rhai bydd y Cymru Cymraeg yn gwneud, efallai!

2 Comments:

At 9 February 2012 at 16:36 , Blogger neil wyn said...

Mae'r treugliadau yn gallu bod yn dipyn o hunllef i neud yn hollol gywir yn yr iaith ysgrifenedig tydyn! mae 'na gymaint o rai 'randym' yn ogystal a^'r rhai cyffredin. Dwi'n teimlo fel mod i'n dod o hyd i un newydd pob wythnos bron!
Mae'n braf cael darllen am dy gwrs:)

 
At 10 February 2012 at 07:11 , Blogger Ann Jones said...

Dwi'n falch clywed nad dim ond fi sy'n cael trafferth. Dyna be dan in cael am gael iaith gyfoethog, efall......................

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home