Ailddysgu

Sunday 29 January 2012

Gwylio adar yn yr ardd - neu ddim


Mae'r "Big Garden Birdwatch" yn digwydd y penwythnos yma. Mi wnes i sgwennu amdanno fo llynedd, yma. A mi welais ychydig o adar ar y pryd. Ond heddiw, es i'r gegin am hanner awr wedi naw bore ma, o ble dwi'n medru gweld yr ardd, a lle mae teclan bwydo'r adar, a mi welais i - dim byd o gwbl! Mae'n wir ein bod ni ddim wedi bod yn llenwi'r peth bwydo digon aml, ond dwi'n meddwl ella, nad ydy hanner awr wedi naw yn y bore yn amser dda. Cyn mynd allan, mi welais titw tomos las, a ychydig o adar eraill yn bwydo ac wrth y wal cefn. Ond pan ddoth yr amser i gyfri'r adar, doedd dim un i gyfri!

Mae o'n bosib hefyd (yn mwy na bosib) bod y tywydd yn cael effaith. Ac er ei fod braidd yn oer, dyn ni ddim wedi cael eira, na'r tywydd garw cawsom llynedd, lle mae'n anodd i'r adar dod o hyd i fwyd. Felly pan mae'r tywydd fel 'ma, dan ni ddim yn gweld gymaint o adar yn yr ardd.

Ond mae'r cynefin bach yn y llun yn un gyfoethog iawn i adar. Mi dynnais y llun yma wrth cerdded y ci. Mae nant bach yn rhedeg ger y llwybr sy'n arwain at yr afon; a coed a llwyni a mueri tu ol i'r nant a hefyd eiddew ar wal y warws yn y cefndir a mae rhandiroedd yr ochr arall o'r llwybr, a wedyn caeau. A dwi wedi sylwi o'r blaen bod y llecyn yma yn denu nifer o adar. Mae'n siwr bod y cyfuniad o dwr, lloches a aeron yn gwneud hwn yn gynnefin da.

2 Comments:

At 2 February 2012 at 23:40 , Blogger neil wyn said...

dewdodd dad wrtha i ei fod o a mam wedi neud sesiwn gwylio'r adar yn yr ardd ar ran arolwg yr RSPB, neu ddylswn i ddweud gwylio aderyn. Mi welson nhw un deryn yn unig, Gwalch Glas! sy'n esbonio diffyg y lleill ella!!

 
At 5 February 2012 at 11:31 , Blogger Ann Jones said...

Ond o leia mae o'n aderyn hardd i weld! Dwi'n gweld mwy o rheini y dyddiau yma yn Milton Keynes a weithiau dwi'n cael gweld nhw'n dda - a gweld yr oren ar y bron. Gwych!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home