Ailddysgu

Sunday 5 February 2012

Y Gaeaf - ac edrych ymlaen i'r Gwanwyn


Ar ol diwrnod hyfryd ond oer mi gawson ni dipyn o eira dros nos - y cyntaf o'r gaeaf. Felly mae o wedi bod yn teimlo yn gaeafol iawn. A finnau yn paratoi ar gyfer y gwanwyn wrth prynu tatws i blannu yn yr ardd! Mae gennyn ni feithrinfa yn Buckingham sydd ddim rhy agos (ryw 18 milltir) ond mae nhw'n tyfu eu planhigion ein hun yna (yn hytrach na prynu nhw) ac yn bwysig, mae o'n bosib prynu ychydig bach o datws ar gyfer plannu (pedwar neu bump o'r un fath). Felly mae na gyfle i drio wahannol fathau o datws. Fel arfer mae rhaid prynu fag o datws sy'n pwyso cilo neu ddwy a dwi eisiau trio ychydig o fathau. Dwi wedi prynu Kestrel eto, sydd yn flasus iawn, y tatws "kidney" sydd yn cael ei tyfu yn Jersey, a hefyd y "Pink Fir Apple" sydd yn hynod o flasus a rhai arall na fedrai cofio eu henwau!

A gan fy mod i yno efo fy ffrind Nicola, roedd rhaid prynu'r tatws Nicola, wrth gwrs! Mi fydd y rhain, rwan, yn cael ei osod mewn box yn y golau er mwyn i'r llygaid datblygu a tyfu cyn cael eu phlannu.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home