Ailddysgu

Friday, 20 January 2012

Dysgu Iaith trwy Cerddoriaeth

Un peth dwi’n gwneud fel rhan o’r Cwrs Maestroli ydy darnau o sgwennu, a pwnc y darn olaf oedd “cerdd sy’n golygu llawer i chi”. Dewisais Nant y Mynydd, am sawl reswm: dwi'n cofio dysgu'r darn yma yn yr ysgol, felly mae'n gysylltiedig a Chymraeg fy ieuengtid, a fy ngwreiddiau Cymraeg a dwi’n hoff iawn ohonni hi; mae'r cynghaneddu a'r odli yn gwneud iddi hi redeg yn hawdd a dwi'n gallu cydymdeimlo'n llwyr gyda awch y fardd i fod allan ar y mynydd - ac ei hiraeth am Gymru.


Ond may hyn wedi gwneud i fi feddwl am ddefnyddio gerddi i ddysgu’r iaith. Mae llawer o gerddi yn weddol hawdd i’w gofio. Ac unwaith mae cerdd yn eich cof, mae gennych chi ryw adnodd ardderchog. Os dach chi isio trio cofio lluosog coch, fel engraifft, mae “rhosod cochion” yn “lan y mor” yn medru rhoi’r ateb i chi, a mae o’n ffordd o ddysgu rhai o batrymau’r iaith sydd yn weddol hawdd ac yn aros yn y cof.

Mi brynais y llyfr Hoff Gerddi Natur pan oeddwn i ym Mangor ar ddechrau’r flwyddyn, ac wrth dechrau edrych ar y barddoniaeth yma, sylwyddolais bod sawl cerdd roeddwn yn adnabod (rhai ddarnau ohonnyn nhw), ond wedi anghofio – fel Y Lili Wen Fach. Dach chi’n cofio hon? Mae’n siwr bod hi’n cael ei ddysgu mewn sawl ysgol, ond roeddwn i wedi llwyr ei anghofio hi a cerdd addas iawn i Ionawr – dyma’r penill cyntaf:

O Lili Wen Fach, o ble daethost di,

Ar gwynt mor arw ac mor oer ei gri?

Sut y mentraist di allan drwyr eira i gyd?

Nid oes flodyn bach arall iw weld yn y byd!

Felly dwi’n mynd ati I ailddysgu fy hoff gerddi a cerddi newydd hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home