Ailddysgu

Wednesday 11 January 2012

Darllen

Wel, dwi wedi dechrau ar y twmpath o lyfrau a phrynais ym Mangor a Chaernarfon. Mwynhais llyfrau Gwen Parrot llynedd, felly r'on i'n falch cael llyfr arall ganddi hi - un doeddwn i ddim wedi clywed amdano - Cwlwm Gwaed, a sgwenodd amser yn ol. Fel y llyfrau mwy ddiweddar, roedd yn gyffroes, efo'r stori yn cydio (os dych chi'n hoff o "thrillers"). A symud ymlaen wedyn i stori wir: "Mwrdwr ym Mangor" gan John Hughes a oedd yn arwain ymchwiliad yr heddlu (pennaeth C.I.D yng Ngwynedd a Chlwyd ar y pryd). Fel mae o'n awgrymu ar y clawdd, mae'r llyfr "yn darllen fel nofel gyffrous a gafaelgar"

Am rywbeth ysgafnach, dechreuais i ddarllen llyfr Tudur Owen yn y gyfres Nabod - "Dangos fy Hun". Mae'r gyfres hon y cynnwys llyfrau sy'n debyg i hunangofiant mewn ffordd, ond gyda cyfraniaith o wahanol bobl sy'n nabod y person - a digon o lyniau hefyd. Ar y clawdd mae o'n deud:Cyfres o lyfrau gwahanol, llawn lluniau sy'n gyfle i ddod i nabod person amlwg trwy'i lygaid ei hun ac eraill. Dwi ddim wedi gorffen hwn eto.

A dwi am trio darllen Petrograd (William Owen Roberts) . Dwi wedi dechrau, a mae o'n dda - ond gyda 540 tudalen, dwi ddim yn siwr os wnai lwyddo. Gawn ni weld.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home