Ailddysgu

Friday 27 January 2012

Blogiau Cymraeg

Weithiau, dwi'n edrych o gwmpas y we i weld pa flogiau Gymraeg sydd ar gael. Mi ddois i ar draws Rhestr heddiw. Mae'r safle we yn disgrifio Rhestr fel casgliad o bob blog yn Gymraeg ar y we- a mae o'n bosib gwel blogiau yn ol y pwnc sy'n cael ei drafod yn ol pwnc. Felly mae o'n bosib gweld y blogiau i gyd am ddysgu Cymraeg (20 ohono nhw) neu am fwyd neu am beth bynnag. Wrth gwrs dydi bob un flog ddim yn cadw at un bwnc, felly mae'n dda i weld bod rhai flogiau ym ymddangos mewn sawl categori. Un flog dwi'n hoffi ydy Asturias yn Gymraeg (blog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen). Mae'r blog yma yn trafod garddio, cefngwlad, gwleidyddiaeth a phwnciau eraill. Wrth mynd trwy'r rhestr yma darganfais flog garddio sy'n newydd i fi: "Hadau" a oedd yn edrych yn ddiddorol - ond yn anffodus mae'r blog diwethaf wedi cael ei sgwennu ym Medi 2010...............

Dwi newydd dod ar draws flog arall dwi am ddarllen yn y dyfodol, hefyd - am ddarllen: . Mae'r rhan fwyaf o lyfrau sy'n cael ei drafod yn Saesneg, yn y flog yma. Ond mae o'n ddiddorol.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home