Ailddysgu

Monday 23 April 2012

O’r ardd: y bwlch bwyta





Mae’r adag yma o’r flwyddyn yn cael ei alw “The Hungry Gap” yn Saesneg, oherwydd mae cynyrch y gaeaf wedi gorffen a dydi llysiau y gwanwyn a’r haf ddim yn barod eto.  Dwi ddim yn tyfu llawer o lysiau ar gyfer y gaeau: fel arfer mae gennyn ni panas (ond mae rheiny yn gorffen o gwmpas mis Chwefror, dydyn nhw ddim yn cadw llawer ar ol hynny); cennin (wrth gwrs) sy’n mynd trwy’r gaeaf hyd at Ebrill – a dyn ni wedi bwyta’r un olaf yn ddiweddar, a wedyn sbigoglys – ond dydy’r hen planhigion ddim yn gwneud mor dda, rŵan a mae’r hadau newydd heb ddod i fynny.  Mae ‘na dipyn o “sprouting broccoli” ar ôl ond fel gwelir mae'r planhigion yn llawn o "aphids".

Ond mae’r dail salad yn dod ymlaen yn dda iawn.  Yr unig broblem ydy ar ol cael tywydd mor braf ym mis Mawrth – rwan mae o’n wlyb (ond dwi ddim yn cwyno – dyn ni angen y dŵr) ond hefyd yn oer.  Felly dach chi ddim yn teimlo fel bwyta salad gymaint.

Mae’r lluniau yn dangos rhai o’r pethau eraill sy’n digwydd yn yr ardd.  Digon o benbyliaid.  A hefyd, er ei fod yn oer, pan mae’r haul allan a mae hi’n cynesi rhywfaint, mae ‘na ddigon o wenyn hefyd.  Mae nhw’n hoff iawn o’r comfrey, a hefyd o’r blodau ar y coed ffrwythau.  Mae o’n dda iawn cael cyfres newydd o Byw Yn Yr Ardd yn ôl ar S4C hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home