Ailddysgu

Thursday, 12 April 2012

Y Llwybr

Dwi wedi gorffen darllen tri lyfr yn ddiweddar: Barato, gan Gwen Pritchard Jones, Y Tŷ Ger Y traeth, a heddiw dwi wedi gorffen ailddarllen Y Llwybr gan Geraint Evans. Mi ddoi yn ol i’r ddau lyfr arall mewn blog arall ond dwi am sôn am Y Llwybr yn y flog hwn.

Dwi wedi ei ailddarllen achos dwi am fynd i’r clwb ddarllen yn y Ganolfan Gymraeg yn Llundain ar ddiwedd y mîs. Me ddarllenais y llyfr dipyn o amser yn ôl (dwy flynedd efallai?). Felly roedd rhaid i fi ei ddarllen eto i gofio be ddigwyddodd. Ond gan mai llyfr ditectif ydy’r LLwybr, roeddwn eisiau gwybod os fyddai’r llyfr yn cydio’r tro yma oherwydd r’on i’n gwybod ‘pwy naeth’ ond doeddwn i ddim yn cofio’r manylion eraill. A do, mi wnes i ei fwynhau yr ail dro hefyd. Roedd yn syndod i fi faint roeddwn wedi anghofio.

Felly be oeddwn yn mwynhau am y llyfr? Mae’r cymeriadau yn gredadwy – ac yn hoffus: yr Arolygydd, Gareth, a’i cydoedion Mel? a Clive Akers. Mae na dipyn o densiwn rhwngddyn nhw ond dim gormod. Mae’r plot yn dda, ac yn arwain chi ar hyd drywydd nes iddyn nhw (y ditectifs) darganfod ryw ddarn o wybodaeth newydd.


Doeddwn i ddim wedi sylwi bod Gareth Evans wedi ysgrifennu llyfr arall gyda’r un cymeriadau – Llafnau – a darllenais hwn heb sylwi mai’r un awdur oedd wedi ei ysgrifennu. Ond dwi ddim yn meddwl ei fod o gystal a’r Llwybr.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home