Ailddysgu

Sunday 29 April 2012

O'r Tŷ Gwydr ac edrych ymlaen i'r clwb darllen


Mae o wedi bod yn bwrw trwy'r ran fwyaf o'r penwythnos, ac yn wyntog iawn hefyd.  Roedden allan yn Rhydychen, ddoe, yn mynd i briodas a cawsom ddiwrnod hyfryd, ond r'oedd yn bwrw'n drwm yn aml ac erbyn y nos roedd y gwynt wedi codi.  Heddiw tawelodd y gwynt, ond roedd y glaw yn barhau - ond cawsom hoe bach o'r glaw p'nawn 'ma. a rŵan mae'r haul allan.  Ond ar ôl yr holl sychder, mae na beryg o lifogydd, rŵan.

Felly dim y tywydd i arddio tŷ allan yn sicr!  Ond dwi wedi bod yn y tŷ gwydr yn symud y blanhigion tomato a pupur fach i botiau dipyn mwy, a hefyd yn dyfrio.  Fel gwelir yn y lluniau, mae'r planhigion salad yn dod ymlaen yn dda - a dwi newydd gwasgaru hadau sbigoglys er mwyn ei cael mewn salad gwyrdd.


Dwi am fynd i'r clwb darllen yn y ganolfan Cymraeg yn Llundain nos 'fory - edrych ymlaen

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home