Mi
gawson ni drafodaeth ddifyr a diddorol neithiwr, yng nghyfarfod cyntaf y clwb
darllen Llundain a gafodd ei sefydlu gan Brendan Riley - felly diolch mawr i
Brendan. Roedden wedi darllen y llyfr Y Llwybr - gan Geraint Evans a
roedd bron pawb wedi mwynhau y llyfr ac yn meddwl bod safon y sgwennu, ar y cyfan,
yn uchel - yn enwedig am lyfr cyntaf yr awdur. Ond wrth gwrs, dydi
llyfrau ditectif ddim yn hoff lyfrau pawb. Yn ystod y trafodiaeth,
roedden yn siarad am llyfrau ditectif Cymraeg yn gyffredinol, ac am faint o
lyfrau ditectif sydd ar gael yn y Gymraeg. Ar y pryd, roeddwn yn meddwl
nad oedd lawer ar gael, ond wrth feddwl am y peth, mae sawl llyfr yn y
traddodiad yma. Dyma'r rhai dwi wedi darllen: (gyda dehongliad eang
o'r gair ditectif achos mae rhai yn lyfrau dirgelwch, neu "thrillers"!)
Llyfrau
Gwen Parott - Cwlwm Gwaed, Hen Blant Bach a Gwyn eu Byd.
Llyfrau
Llwyd Owen - Mr Blaidd ac yn y blaen Llyfr eitha newydd:Pwll Enbyd gan Alun
Cobb; Llafnau gan Geraint Evans eto; Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones;
Yn Y Gwaed - Geraint V Jones; cyfres Llion Iwan: Lladdwr, Casglwr ac Euog;
Tacsi o’r Tywyllwch, Gareth F Williams
ac ymysg llyfrau i ddysgwyr - llyfrau am Seimon Prys y ditectif.
Dwi'n siwr fy mod wedi gadael llyfrau allan yma - ac wrth edrych ar y we
dwi'n gweld bod E Morgan Humphreys wedi yn sgwennu llyfrau ditectif blynyddoedd
yn ôl fel Llofrudd yn y Chwarel (1951)
Os gennych chi awgrymiadau am lyfra ditectif eraill,
gadewch i fi wybod!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home