Mae rhai blodau yn denu gwenyn: fel arfer blodau gwyllt neu blodau syml. Dwi wastad wedi trio tyfu blodau sy'n denu gwenyn yn yr ardd. A mae yna nifer o lyfrau a tydalennau wefan fel http://www.helpthehoneybee.co.uk/plants/plants.php sy'n rhoi rhestri o flanhigion sy'n addas. Un o'r rhain ydy'r ceiniog arian sydd yn dechrau blodeuo rŵan (honesty: lunaria annua). Mae gwenyn wrth eu fodd efo blodau'r mafon hefyd a bydd y rhain yn dechrau blodeuo mewn ryw bythefnos. Un o'r planhigion sy'n dda iawn iawn ydy "comfrey" a mae'r planhigyn yma yn hymio efo gwennyn. Mae o wedi bod yn blodeuo am dipyn rŵan a mae digonedd o wenyn i'w gweld ar y blodau.
Ond eleni dwi am trio cael mwy o wennyn i'r tŷ gwydr i beillio'r llysiau felyr "aubergines". Llynnedd r'oedd rhaid i fi gnwued hyn fy hun. Dwi wedi rhoi "Valerian" yn y tŷ gwydr sydd hefyd yn dda a dwi wedi archeb hadau blodau gwyllt i dyfu, hefyd. Mae rhai ohonnyn nhw yn annodd i dyfu mewn gardd, felly gawn ni weld sut bydd y hadau yn gwneud.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home