Ailddysgu

Friday 14 September 2012

Gwyliau a darllen

Fel arfer dyn ni'n mynd i ffwrdd am ryw wythnos ym mis Mehefin, ond eleni roedd gwaith yn brysur iawn adeg yna - a parhaodd yn frysur trwy'r haf.  Felly dan ni'n mynd heddiw, i Gernyw, a dwi'n edrych ymlaen yn arw.  My fyddan yn aros dim rhy bell o Fowey, ac oherwydd bod y daith yn un hir, dyn ni'n cymryd tren i fynd i St Austell a wedyn logi car.  Mi fyddan yn agos at y prosiect Eden - un rheswm am fynd.  Mae'r ddau ohonnyn ni eisiau mynd yno - ond mae o rhy bell i feddwl am fynd am benwythnos.  Dwi'n edrych ymlaen am cael cerdded ar lan y mor, hefyd.

My fyddaf yn mynd a Pantglas gan Mihangel Morgan gyda fi i ddarllen.  Hwn ydy'r llyfr nesaf ar restr darllen Clwb darllen Llundain.  Ges i ddim llawer o hwyl gyda Hanner Amser (yr un diesethaf) i ddweud y gwir (dim digon diddordeb mewn rygbi, am un beth), ond dwi wedi clywed bod y llyfr yma yn wych.  A dwi newydd orffen Min y Mor (Mared Lewis) sy'n dda iawn

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home