Fel arfer dwi ddim yn postio am bethau gwleidyddiol ond ar ddiwedd wythnos diwethaf mi gefais ebost o "38 degrees" sydd yn ymgyrch am wahannol bethau ac yn trefnu deisebau ar lein. Y grŵp hwn oedd yn rannol yn gyfrifol (yn fy marn i) am gael y lywodraeth i newid ei feddwl am gwerthu ein coedwigau cyhoeddus) gyda gymaint o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn y cynllyn.
Y tro yma mae nhw yn ymgyrchu am cael y lywodraeth i wahardd rhai plalarddwyr (pesticides) sydd yn cael eu ddefnyddio yn gyson ar cnydau.
Mae cryn tipyn o dystiolaeth bod y cemegau yn amharu gwennyn a mae gwledydd eraill wedi eu wahardd nhw yn barod, ond dim ein llywodraeth ni. Mae'n siwr bod gan y cwmnïau mawr sydd yn cynhyrchu y cemegion yma dipyn o bwer a ddylanwad. Ond yn bendant mae angen ymgyrch yn eu herbyn: wedi'r cyfan, roedd y llywodraeth yn meddwl bod DDT yn saff yn ol yn y chwedegau, ond wnaeth o amharu llawer ar adair ysglyfeithus, yn enwedig.
Felly, os, fel fi, dach chi’n hoff o wennyn - ac eisio gweld nhw yn goroesi .....cefnogwch yr ymgyrch hon.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home