Ailddysgu

Sunday 14 October 2012

Aubergines a gellyg


Ychydig o wythnosau yn ol, ‘ron i’n cwyno bod yr aubergines yn y tŷ gwydr dim wedi tyfu, ac yn ddal i fod yn fach (ar wahan i nun neu ddau).  Dwin amau bod y diffyg haul a golau wedi cael effaith, ond hefyd mae’n bosib  bod ‘na broblemau gyda peillio, er fy mod i wedi trio gwneud hyn fy hun - a - ‘roedd blodau yn tyfu yn y tŷ gwydr er mwyn denu pryfed a gwennyn.  Beth bynnag, mae’r aubergines bach wedi dod ymlaen yn dda yn ddiweddar, fel gwelwch



a dwi’n gobeithio cael digon i goginio mwy nag un bryd o fwyd, er, dwi ddim yn meddwl bydd nhwn yn tyfu llawer mwy rŵan gyda’r dyddiau yn oeri a’r nos yn dod yn fuan, ond gawn weld.


Fel arfer mae gennyn ni ddigon o afalau yr adeg yma o’r flwyddyn a mi fyddaf yn cadw rhai mewn blychau yn y garej am ryw ddwy fis.  Ond eleni, fel llawer o bobl arall, dydi’r cynhaeaf ddim yn dda iawn.  Mae un goeden heb ffrwythau o gwbl, ond mae honna yn Laxton’s Superb  a dydi hi ddim yn cael ffrwythau bob blwyddyn.  Fel rhai eirin, mae o’n tueddu fod yn ddwyflynyddol – yn  rhoi ffrwythau bob yn ail flwyddyn.  Mae’r gellyg wedi gwneud yn well, ond does dim gymaint o ffrwythau ar y goeden Conference ag arfer – a fel gwelwch, mae’r fwyalchen yn helpu ei hun oddi ar y goeden.  Ond mae’r blas yn ardderchog, a dyn ni wedi cael nhwn am ginio heddiw wedi coginio mewn gwin coch.   Mi ddefnyddiais ryseit o lyfr Monty Don ond mae na ddigon 





tebyg ar gael fel hon.  Blasus!  

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home