Ailddysgu

Monday 8 October 2012

Ymweliad i Coniston


Mi aethon ni i Coniston am ychydig o ddyddiau yn ddiweddar fel dan ni'n gwneud bob blwyddyn, i aros efo ein hen ffrind Win - sydd wedi byw yn yr ardal am 92 flynedd.  Roedd y tywydd braidd yn wlyb i wneud lawer o gerdded ond aethon ni am un daith cerdded dymunol iawn o Grasmere, sy’n gysylltiedig a Wordsworth.  



Dau beth dwi'n hoffi am y taith cerdded yma:

1        Mae o'n hardd, efo golygfeydd bendigedig ond heb dringo gormod
2        Mae o'n mynd heibio tri lle i gael paned ac un tafarn, a dwy ardd diddorol iawn....

Y gyntaf ydi  Rydal Mount ei hun, lle bu Wordsworth yn byw ar ol gadael Dove Cottage. Mae'r ardd yn llawn o goed hardd sydd yn edrych yn naturiol iawn ymhlith y coed a’r bryniau o gwmpas yr ardd a gyda golygfeydd dros y llyn.  Ond y tro yma, mi aethon ni i Rydal Hall – lle wnaethon i ddigwydd i fynd heibio llynedd.  Hen stâd ydi hi sydd yn agos iawn (dros y ffordd) i hen dŷ Wordsworth.  Mae ymweliad i’r gerddi, a chafodd eu atgyfeirio yn ddiweddar(ond mae gwaith yn mynd ymlaen yn y gardd o hyd) yn rhad ac am ddim,   Mae yna ardd llysiau, a mae’r stad yn defnyddio pŵer hydro-electrig a chafodd ei sefydli 90 mlynedd yn ol.  



Mae hi’n gysylltiedig a chelfyddyd ac artistiaid, a heddiw mae cerfluniayu a chelfyddydau i’w ddarganfod ym mhobman yn y gerddi.



  Mae’r caffi yn derbyn cŵn, felly r’oedd pawb yn hapus. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home