Cofnod
byr heddiw i ddweud ein bod ni wedi cael wythnos da yng Nghernyw – a rŵan dan
ni’n ol yn y glaw a’r gwynt. Roedden i’n aros tu allan i bentre bach o’r
enw Lanlivery, rhwng St Austell a Bodmin, allan yng nghefngwlad. Mwynhais
codi yn y bore a cael mynd am dro yn gynnar trwy cefn gwlad hyfryd a gweld a clywed adar na fasen i’n gweld na chlywed yn fama - fel y gylfinir a bob noson r’oedd tylluan fach yn galw. Roedd yr
ardal yn fryniog gyda golygfeydd bendigedig: ac wrth gwrs, doedd y môr ddim rhy
bell i ffwrdd.
Mae’r
cysylltiaeth rhwng Cernyweg a Cymraeg yn amlwg yn enwau y pentrefi a’r
ffermydd: sawl pentref a tre yn dechrau gyda “Lan“ a ffermydd a tai gyda
enwau yn debyg iawn i enwau Cymraeg, fel yn y llun
ac wrth gwrs mae ’na
adfywiad o’r iaith. Yn wir, mae wicipedia yn awgrymu bod ’na 2,000 o
bobl yn siarad Cernyweg yn rugl. A gyda’r iaith yn cael ei ddysgu mewn
ysgolion rŵan, bydd yn ddiddorol gweld be ddigwyddith yn y dyfodol - ond
dan ni’n gwybod mor fregus ydi statws ieithoedd lleiafrir.
2 Comments:
Diddorol iawn, pan arhoson ni yng Nghernyw dros yr haf roedden ni'n aros mewn pentref bacb bach o'r enw Merther, roedd adfail eglwys drws nesa roedd y penterfwyr yn ei galw 'Eglos Merther' o hyd.
Lle roeddet ti'n aros, Neil?
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home