Ailddysgu

Saturday 1 December 2012

Gwobr blog garddio, chwilota a pupurau


Mae’r Guardian wedi ennill gwobr  am ei flog garddio.  Dwi’n meddwl ei fod yn flog  ardderchog.  Mae Jane Perrone, golygydd garddio y Guardian hefyd yn gwneud blog personol   sy’n dda iawn hefyd.  Es am gweithdy “foraging”   gyda Jane  llynedd (‘roedd rhaid i fi edrych – r’on yn meddwl mai efallai eleni roedd o!).  Dwi ddim yn siwr be ydy “foraging” yn Gymraeg – mae un geiriadur yn awgrymu “chwilota”.  Dwi ddim wedi bod yn chwilota yn ddiweddar ond heddiw, wrth cerdded dros bont yng nghanol Milton Keynes, mi welais ffigysbren mawr iawn.  Yr amser yma o’r flwyddyn, mae llawer o ffrwythau  anaeddfed arni hi.  Ond os ydyn nhw  yn goroesi’r gaeaf, mi fyddan nhw’n aeddfedu blwyddyn nesaf. Felly, falle bydd cnwd porthi i gael yn yr haf.


Yn y cyfamser, mae’r pupurau wedi cael ei gasglu o’r tŷ gwydr.  Ar ol noson mor rhewllyd, doedden i ddim eisiau gadael nhw yna, a dyma nhw.  Mae nhw wedi gwneud mor dda, eleni, er, mae nhw'n hwyr ofnadwy yn aeddfedu.  Ond, fel gwelwch, o'r diwedd mae nhw yn troi'n goch.








3 Comments:

At 2 December 2012 at 14:23 , Blogger Wilias said...

Foraging: beth am 'hela'? Dim rhaid i hynny olygu lladd anifeiliaid yn unig nac'di?
Biti fod y Guardian wedi rhoi'r gorau i'w blog rhandiroedd.

 
At 3 December 2012 at 04:35 , Blogger Ann Jones said...

Ia, mae hynny'n dda. Hela ydy o felly! A rhaid dweud, nes i ddim sylwi bod y blog rhandiroedd wedi mynd - mi oedd o yna o hyd ychydig bach yn ol (ond efalla mai fi sy'n meddwl mai ychydig bach ydy hi - a hithau'nn misoedd ers i fi edrych ar hwnnnw)

 
At 3 December 2012 at 12:48 , Blogger Wilias said...

Dim ond ers Hydref dwi'n meddwl. Mae'r awduron yn cynnal blog arall rwan
http://plot29dotcom.wordpress.com/
Ffotograffiaeth arbennig ganddynt.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home