Ailddysgu

Sunday 16 December 2012

Teithio i Rufain ar y tren


Hmm.  Dwi'n sgwennu hwn ar y tren o Rufain i Munich.  Y tren dros nos, sydd yn cysylltu a tren arall yn Munich i Frankhfurt.  Wedyn tren o Frankfurt i Brussels - ac adref ar Eurowtar.  Ond dydy'r tren ddim am gysylltu, oherwydd mae o 30 funud yn hwyr.  Felly bydd rhaid cael tren arall, ac efallai tocyn newydd, set newydd a Eurostar newydd, a.y.y.b.  Medra i ddim dweud bod y profiad o fynd ar y tren wedi bod yn esmwyth iawn.  Dwi'n hoffi defnyddio tren, mae o'n fwy wyrdd na hedfan a dwi ddim yn hoffi hedfan, (na bod yn y maes awyr) felly penderfynnais mynd i Rufain ( ar gyfer cyfarfod) ar y tren.  Digon o amser i wneud tamaid o waith roedd angen gwneud, paratoi ar gyfer y cyfarfod, a gwneud fy ngwaith Cymraeg Maestroli.  Ond mae o wedi bod yn daith rwystredig.  Ar y ffordd, roedd y tren i Munich mor hwyr fel fy mod i'n colli'r tren dros nos.  Felly roedd rhaid aros yn Munich a mynd yn y bore.  A Munich gyda digon o eira o gwmpas.

Ond roedd hynny'n golygu mynd trwy'r mynyddoedd  yng golau'r dydd.  Ac er fy mod yn cyraedd llawer hwyrach nac oeddwn wedi cynllunio, roedd y dirlun yn hardd ofnadwy, (fel gwelwir.), ac yn ogystal a gweithio, roeddwn yn treulio digon o amswer yn edrych ty allan ar yr eira, y coed, a'r mynysdoedd.






Wedyn, mewn cyfarfod am y ran fwyaf o ddau diwrnod, ac ond ryw ddwy awr i grwydro o gwmpas dipyn cyn dal y tren yn ol.  Ond unwaith o'r blaen dwi wedi ymweld a Rufain, blynyddoedd maith  yn ol (roedden ar daith beic ar y pryd) a roeddwn wedi gwirioni efo'r ddinas.  Mi faswn wedi hoffi cael mwy o amser y tro yma hefyd, ond doedd o ddim yn bosib.  Ond hyd yn oed yn agros i'r gorsedd Termini, mae 'na ddigon o bethau diddorol a hyd yn oed anhygoel i'w gweld.

Dwi wedi dysgu Eidaleg.  Dwi ddim yn rhugl,  o bell ffordd, ond roeddwn yn medru cael sgwrs, darllen  yr iaith yn weddol a.y.y.b.  Ond profiad siomedig iawn oedd trio cofio a defnyddio'r iaith ar ol blynyddoedd maith (dros ugain). (Ac wrth gwrs, yn dangos beth sy'n digwydd os dach chi ddim yn defnyddio'r iaith...)  Felly falla ddylwn fynd ati i ailddysgu?   Peth diddorol arall  a rhwystredig hefyd ydy bod rhywle lle nad ydych yn siarad yr iaith o gwbl, fel (i fi) yn yr Almaen.  Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod sut i ddweud 'mae'n ddrwg gen i ond dwi ddim y n siarad Almaeneg"  Mi faswn wedi ymdopi yn iawn gyda Ffrangeg yn y wlad Belg, ond roedd rhaid aros dros nos yn Munich a roeddwn  yn ddiolchgar iawn bod pob plemtyn yn dysgu Saesneg yn yr ysgol yn yr Almaen, a mae'r rhan fwyaf yn dda iawn.

Er bod y teithio yn ddiddorol; fel arfer, dwi'n falch o bod adref rwan ond yn sicr mae o wedi gwneud i fi feddwl am y profiad o dysgu iaith pan dach chi'n ddechreuwyr llwyr.

3 Comments:

At 17 December 2012 at 01:29 , Blogger Rhys Wynne said...

Rhwystredig iawn ( y teithio). Tydw i a'm gwraig ddim yn hoffi hedfan (yn rhannol oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd, ond yn bennaf achos dan ni'n casau treulio amser yn sefyllian mewn meysydd awyr). Dwi ddim yn meddwl i ni hedfan ers 2006 pan aethom i Toronto. Dw i ddim yn siwr pryd awn ni dramor nesaf, achos mae merch fach dwy oed gyda ni a deud y gwir dan ni'n ddau am wneud beth sy hawsa ac mynd ar wyliau yng ngorllewin Cymryu yn hytrach na gwneud rhywbeth mwy mentrus.

Wedi dweud hynny, hoffwn feddwl yr awn ni un tro, a hynny ar dren. Dw i wedi mwynhau darllen hanes taith trenau blogwraig (a garddwriag) o Gaerdydd. Rhaid i mi gyfaddef, ro'n i wedi cael yr argraff bod teithio ar draws Ewrop yn fwy hwylus na dy brofiad di, ond efallai mai anffodus oeddet ti, ond diolch am rannu dy brofiad gyda ni.

 
At 17 December 2012 at 03:51 , Blogger Ann Jones said...

Diolch am y sylw, Rhys. I ddweud y gwir, dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi gwneud hyn yn y ffordd gorau. Wedi edrych ar y we ers dod yn ol (trefniwyd y taih drwy'r gwaith) dwi'nn meddwl bydd yn well mynd drwy Paris - a falle cael nos ym Mharis. Ond hefyd mae angen gadael digon o amser i'r cysylltiadau. Felly dwi ddim rhy digalonnog! Ond my ddylai bod yn haws gwneud trefnadiau dros teithio gyda'r tren - yn lle bod hedfan yn "default". Ac er fy mod i ddim yn mynd tramor yn aml chwaith dwi wedi cael profiadau da iawn yn mynd i Dde Ffrainc.

 
At 22 December 2012 at 03:32 , Blogger Unknown said...

Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

Cofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
CorpwsCymraeg@gmail.com

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home